P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ashley Davies, ar ôl casglu 75 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Gweinidog Addysg i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg er mwyn gwarchod iaith ein cyndadau. Gofynnwn hefyd i bob ysgol yng Nghymru addysgu hanes Cymru a hanes y bobl a gynorthwyodd i lunio'r wlad hon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'n warth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yn waeth fyth, mae ein hanes yn cael ei golli. Dim ond mewn ysgolion yn y Gogledd a'r Gorllewin, lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg, y caiff ein hanes ei warchod, hanes sydd wedi'i ysgrifennu yn yr iaith. Er mwyn diogelu'r rhain, rhaid inni wneud yn siŵr bod ein plant yn eu dysgu a bod yr iaith yn cael ei defnyddio bob dydd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Mynwy
· Dwyrain De Cymru